Ma Dogfael 'di bod i B e l j y m.
Do. Wir.Shwt ffac lwyddodd e i sgwennu cweit gyment am y lle, sai'n gwbod... ond
whatever he can do Ray can do better medde fi wrth fy hun...
'Chos wy 'di bod i Beljym 'fyd ch'weld. O do. Mwy nag unweth, gweud gwir.
Y tro cynta' es i odd efo'r wejen o'r coleg... ffacinhel, ma hyn dros bum mlynedd yn ôl nawr! Faint o amser gymrith hi i fi dderbyn bo fi ddim yn sdiwdent mwyach, gwedwch? Ffac, fyddai siwr o fod dal yn trio blagio'n hunan mewn i'r stiwdents iwnion pan fyddai'n fforti. Diflas.
Ta beth, saimo pam ddiawl ddewison ni fynd i Frwsel, ond wy'n meddwl bo 'da fe rwbeth i neud 'da'r ffaith bo'r
flights i'r lle yn costio llai 'na tren o Gaerdydd i'r Bari. Joion ni mas draw 'na - odd Sky 'da nhw yn y hotel ac odd y mini bar yn llawn wisgi. Neish. S'dim byd fel mynd dramor ose?
Sai'n meddwl bod y staff glanhau 'di joio'n ymweliad ni cweit gyment, cofiwch. Yn enwedig y ferch druan gerddodd mewn i'n stafell ni er mwyn tacluso'r lle dim ond i weld fi'n trio 'rhoi cig ar yr asgwrn'. Odd y blewyn 'di rhedeg mas i nôl Baguette (hoho!), os wy'n cofio'n iawn, so na'i gyd welodd y Fadamwasel Felgaidd odd Cymro hanner-cyffroëdig yn gorwedd ar ben y gwely ar 'i ben 'i hunan yn trio bwrw un bant tra'n watsho
Chris Kamara ar Sky Sports News. O Damo hi.
Ymweliad digon cythryblus odd hwnnw gweud gwir. Y broblem gynta' gathon ni odd grwp o fois du ar y tiwb yn cymryd yn erbyn y ffaith bod 'na Gymro gwyn tenne eiddil yn cer'ed rownd Brwsel 'da merch ddu. Dechreuodd un rapio'n gynddeiriog at y ferch druan mewn rhyw Ffrangeg odd y tu hwnt i Ray. Ta beth, deall ne bido, on i'n gwbod bod y ffycyr yn rhoi rhyw jîc i fi, so co fi'n gweiddi ar y contied yn Ffrangeg (ond gyda acen Aberystwyth) bo nghoc i'n ddwywaith seis 'u cocie nhw oll da'i gilydd. Natho nhw'm deall i ddechre, ond pan ychwaneges i'r
hand movements priodol, ddeallon nhw'n weddol gloi whare teg. Sbrint odd hi wedyn drwy steshon
Porte de Hal gyda'r jawled yn rhedeg ar ein holau ni...
Gathon ni getawê wrth y moch yn diwedd a chario mlân 'da'r gwylie. Ma'r ddinas yn ddigon pleserus, gweud gwir. Galle Ray fyw 'na'n ddigon hawdd - ma pubs y jawled yn aros ar agor tan yr orie mân a ma'r bwyd yn sbot ffacin on. Y peth gore am y lle, ddo, yw'r ffor ma nhw 'di conio'r byd i gyd gan alw'r
pwrsyn bach 'ma yn atyniad twristaidd.
Genius! Ta beth, ar ôl cwyno am seis y boi bach, benderfynes i mai hwn, mewn gwirionedd, odd yr atyniad twristaidd gore erioed - dim ond y Beljans alle farchnata dinas ar sail boi bach yn cymryd slash. I ddathlu'r foment, ges i nghoc mas a chal llun o fe a fi yn pisho ynghyd. Joio.
Rhedeg ffwrdd eto odd hi wedyn, yn amlwg...
Yr ail waith ymwelodd eich annwyl Ray â Brwsel odd 'da'r bois llynedd... odd hi'n rhemp mas 'na achos, er bo ni'r Cymry'n meddwl bo ni'n gallu handlo'r bwz, ma cwrw'r Beljans yn rhacso chi'n lân, bois bach. Ma rhai o'u cyrfau nhw'n 8% prwff, boblach! 5.2% yw peint o Stella draw ffor' hyn a ni i gyd yn gwbod faint o fes ma hwna'n gallu neud ondyn ni?
Ta beth, 'na lle odd y bois yn joio mewn rhyw far ne gilydd ac yn dechre mynd ar nerfe'r hen feljans odd 'di dod mas am ddrinc tawel yn y local. Ath y bois yn fwy swnllyd fyth ar ôl dechre chware
table football (wy'n gwbod bo na enw iawn arno fe,
'foozball' ne rwbeth, ond sdim clem 'da fi shwt ma sillafu fe so os yw
table tennis ddigon da, mi neith
table football 'fyd).
Nawrte, ma'n ffaith bo fforinyrs yn well na ni'r Brits ar y gêm 'ma... tra bo ni jyst yn troi'r blydi dynion bach mor gloi a phosib, ma'r Ffrancwyr, y Jyrmans a'r bechingalws 'na sydd rhyngddyn nhw... yyyym, o ie, y Beljans yn defnyddio'r dynion bach i symud y bêl o gwmpas y bwrdd yn gelfydd cyn chwalu'r ffycyr i gefn y gôl a hynny cyn i chi allu gweud "ma Tintin yn racist". So... pan ddath y Beljans salw lan aton ni yn ddrwg 'u hwyliau i gyd a chynnig gêm i'ch annwyl Ray a'r bois doedden ni ddim yn meddwl bo gobeth caneri 'da ni. Derbynion ni, wrth gwrs - oni'n feddw wedi'r cyfan, a dyw bois meddw ddim yn dueddol o wrthod sialens...
Ar ôl chware cwpwl o
1 on 1s a cholli'n ddiflas, cynigioddy Beljans bod ein 2 foi gore ni yn chware'r ddau gore yn y bar mewn gêm o ddybls. Cymru v Gwlad Belg, bois bach... a hynny am 50 Ewro. Seriws! Wrth drafod y
team selection, dyma'r 'Cyfaill Coch', un o gyfeillion mwya tawedog Ray, a oedd cyn hynny wedi bod yn ishte yng nghornel y bar yn meindio'i fusnes, yn gweud:
"Wy 'di ennill twrnaments yn y gêm 'ma, os chi mo'yn i fi whare."Oho, joio! Felly, co Ray a'r Cyfaill yn nesau at y bwrdd ar gyfer y gêm fawr... a'r beljans diamynedd yn taflu'r bêl miwn a bwrw ati'n syth.
"Wow, wow, wow" medde fi cyn mynd mlân i weud bo'n rhaid canu anthem cyn gêm ryngwladol...
So na le odd y bois, rhyw ddeg ohonon ni, yn canu'r anthem genedlaethol reit yng ngwynebau'r Beljans crac 'ma, a rheiny'n mynd yn fwy diamynedd bob eiliad!
Odd hi'n ddiawl o gêm dda 'fyd, boblach! Ffac, odd. A diolch i'r Cyfaill Coch a'i ddawn gudd, guron ni'r moch yn diwedd. Rhedeg fuodd hi o'r lle 'na 'fyd ar ôl hynna...
Pat van den Hauwe, Jean-Claude van Damme, Tintin... Your Boys Took a Hell of a Beating!!!